Mae Cronfa Adfywio newydd ar gyfer Gogledd Ynys Môn wedi ei lansio heddiw (Dydd Llun, Chwefror 17) er mwyn helpu busnesau, cefnogi digwyddiadau lleol a gwneud gwelliannau amgylcheddol.
Drwy ddefnyddio cyllid gwerthfawr gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), mae Cyngor Môn wedi sefydlu cronfa newydd fel rhan o’i ymdrechion i adfywio ardal sydd wedi dioddef sawl ergyd economaidd yn ddiweddar.
Mae cronfa gychwynnol o £50,000 ar gael ar gyfer cynlluniau a ellir eu cyflawni erbyn mis Medi 2020. Bydd grantiau bach o hyd at £5,000 ar gael er mwyn helpu busnesau a grwpiau cymunedol yn wardiau Talybolion a Twrcelyn a chymuned Moelfre - i wireddu cynlluniau fydd yn cefnogi Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn y Cyngor Sir.
Datblygwyd Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn mewn ymateb i’r oedi i brosiect Wylfa Newydd, cau ffatri Rehau yn Amlwch a thoriadau pellach i’r gweithlu yng ngorsaf bŵer presennol Wylfa.
Mae’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear wedi clustnodi £495,000 tuag at sicrhau nodau’r cynllun sef:
- Creu cyflogaeth a swyddi
- Cefnogi’r diwydiant twristiaeth
- Gwella trafnidiaeth a chysylltedd
- Adfywio ardaloedd gwledig a darparu tai addas
- Sicrhau bod yr ardal yn elwa o’i amgylchedd naturiol a’i diwylliant
Eglurodd Arweinydd y Cyngor a Chynghorydd Sir Talybolion, y Cynghorydd Llinos Medi, “Gyda chynllun cadarn ac uchelgeisiol yn ei le er mwyn helpu Gogledd Ynys Môn, gallwn rŵan ddechrau rhoi’r cyllid NDA sylweddol a gwerthfawr hwn i ddefnydd da.”
“Bydd y Gronfa Adfywio Gogledd Ynys Môn yn darparu grantiau bach ar gyfer prosiectau addas sydd wedi eu hanelu at gefnogi twf economaidd, hyrwyddo’r iaith Gymraeg, creu swyddi a gwella sgiliau, gwaith partneriaeth, amddiffyn yr amgylchedd a chreu cymunedau cynaliadwy.”
Ychwanegodd, “Rwy’n annog busnesau lleol a grwpiau cymunedol i gyflwyno cais os oes ganddynt brosiectau sy’n bodloni’r meini prawf perthnasol ac sy’n gallu helpu i adfywio eu cymunedau lleol.”
Bydd cyllid gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear hefyd yn cyfrannu tuag at fesurau eraill sydd â’r nod o hyrwyddo gweithgareddau busnes, y gadwyn gyflenwi a chyflogaeth, cynyddu twristiaeth, gwella trafnidiaeth ac isadeiledd ac adfywio’r Strydoedd Mawr.
Ychwanegodd Rheolwr Cysylltiadau Rhanddeiliaid NDA a materion Economaidd Gymdeithasol, Jonathan Jenkin, “Mae’r ADN yn falch o gefnogi Cynllun Adfywio Gogledd Ynys Môn y Cyngor Sir. Bydd Cronfa Adfywio Gogledd Ynys Môn yn denu buddsoddiad sydd wir ei angen a swyddi i’r ardal, gan gefnogi cymunedau gynaliadwy wrth i safle’r Wylfa gael ei ddatgomisiynu.”
Mae’r heriau o ddenu buddsoddiad a chyflogaeth newydd i ogledd Ynys Môn yn cael eu cydnabod gan bawb. Fodd bynnag, gyda chynllun clir, ymrwymiad a drwy gydweithio, mae’r Cyngor Sir yn credu y bydd busnesau lleol, pobl a chymunedau yn elwa.
Dywedodd deilydd portffolio Môn ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu’r Economi, y Cyng Carwyn Jones, “Mae llawer iawn o waith ac ymdrech wedi mynd i mewn i lunio’r Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn ac mae’n gosod llwybr clir i ni o ran ddyfodol yr ardal.”
“Rydym wedi ymrwymo i weithio â phartneriaid allweddol er mwyn creu swyddi a chefnogi twf economaidd yn yr ardal. Bydd hyn yn cymryd amser a llawer iawn o waith ond bydd lansiad y gronfa newydd hon, diolch i’r NDA, yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer adfywio economaidd.”
Rhannir y gronfa o £50,000 yn ddwy; gyda cheisiadau am y £25,000 cyntaf i’w derbyn cyn Mawrth 31 a cheisiadau am yr ail £25,000 i’w derbyn rhwng Mai 1 a Mai 31 2020.
Ceir y meini prawf a’r ffurflenni gais ar gyfer Cronfa Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn ar www.ynysmon.gov.uk/cronfaadfywiogogleddmon
Diwedd 17.2.20
Nodiadau i Olygyddion:
Mae sefydlu Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn a’r gronfa yn adlewyrchu dau o’r prif amcanion gaiff eu hamlygu yng Nghynllun y Cyngor 2017-22, sef:
- Sicrhau bod pobl Ynys Môn yn gallu ffynnu a chyflawni eu potensial tymor hir
- Gweithio gyda’n cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau wrth warchod ein hamgylchedd naturiol.